Dyfodol Cryfach gyda’n Gilydd

Keir Starmer
Mae magwraeth Keir yn Oxted wedi siapio ei gymeriad.
Roedd ei dad yn wneuthurwr tŵls, ac roedd ei fam yn nyrs yn y Gwasanaeth Iechyd. Roedden nhw ill dau wedi trwytho Keir mewn urddas gwaith a gwerth gwasanaeth cyhoeddus.
Ers degawdau, mae Keir wedi sefyll yn erbyn y bobl fawr ar ran y bobl gyffredin oedd angen help. Yr hyn sy’n sbarduno Keir yw ei angerdd i wneud y byd yn lle gwell a thecach i bobl sy’n gweithio.
Arweiniodd ei angerdd ef at fyd y gyfraith, cyn iddo sefyll fel AS a dod yn arweinydd y Blaid Lafur yn ddiweddarach.
Nawr, mae’n awyddus i wynebu heriau’r dyfodol gyda chynllun newydd ar gyfer Prydain, gan weithio gyda Llywodraeth Lafur Cymru, dan arweiniad Mark Drakeford, i adeiladu Cymru gryfach, decach a gwyrddach; lle mae cyfraniad pawb at gymdeithas iach, cymunedau diogel ac economi gref yn cael ei wobrwyo’n gywir.
Dyna’r gwahaniaeth y byddai Llywodraeth Lafur y DU, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Lafur yng Nghymru, yn gallu ei chyflawni.
Helpwch ni i wneud Cymru’r lle gorau i fyw
"(Maes gofynnol)" indicates required fields