Enwebu rhywun i sefyll dros Lafur Cymru yn 2026
Ymhen 18 mis, fe fydd Llafur Cymru yng nghamau olaf ymgyrch etholiadol fwyaf hollbwysig y Senedd ers dechrau datganoli.
Gyda’n Senedd yn cyrraedd cyfnod newydd, lle caiff datganoli ei gryfhau a’i ehangu, bydd gennym fwy o ymgeiswyr Llafur Cymru nag erioed o’r blaen. Rydym yn eich gwahodd i enwebu rhywun i sefyll.
Efallai eu bod nhw’n bobl rydych chi’n eu hadnabod yn dda, sy’n hyrwyddwyr eich cymuned. Efallai eu bod nhw’n bobl rydych chi’n eu hedmygu, sy’n arbenigwyr yn eu maes. Neu efallai eu bod yn bobl yr ydych wedi cwrdd â nhw, y byddai eu sgiliau yn cyfoethogi ein senedd, a’n gwlad.
Ystyriwch yn arbennig bobl nad ydynt efallai’n edrych fel pwy fyddech chi’n disgwyl sefyll dros blaid wleidyddol. Rydym ni’n cynrychioli Cymru orau pan fyddwn ni’n edrych fel Cymru, ac mae hynny’n golygu y bydd angen ymgeiswyr sy’n sefyll drosom ni o amrywiaeth o gymunedau a chefndir.
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen isod i ddweud wrthym am y bobl y credwch y dylent sefyll i fod yn ymgeisydd Llafur Cymru yn etholiad nesaf y Senedd.
Nodwch os gwelwch yn dda
Bydd llenwi’r ffurflen uchod yn cael ei defnyddio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch enwebai am broses dethol ymgeiswyr Llafur Cymru yn unig. Nid yw llenwi’r ffurflen hon yn gwarantu ymgeisyddiaeth eich enwebai ar gyfer Llafur Cymru yn etholiadau’r Senedd yn 2026, nac mewn unrhyw etholiad arall. Nid yw methu â chwblhau’r ffurflen hon yn atal unrhyw unigolyn rhag sefyll dros Lafur Cymru.
Pan fyddwch yn enwebu unigolyn, byddwn yn rhoi gwybod iddynt mai chi wnaeth ei enwebu pan fyddwn yn cysylltu â nhw. Os na fyddwn yn clywed ganddynt o fewn y cyfnod dethol, byddwn yn dileu enw’r unigolyn a’ch cysylltiad ag ef.
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio eich data, edrychwch ar ein polisi preifatrwydd.