Jo Stevens AS
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
Magwyd Jo Stevens mewn pentref yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion, gan raddio yn 1988. Am dros 25 mlynedd, bu’n gyfreithiwr ac yn gyfarwyddwr Thompsons Solicitors, cwmni cyfreithiol ledled y DU sy’n ymroddedig i gynrychioli aelodau undebau llafur ac eraill a anafwyd neu a gafodd eu cam-drin yn y gwaith.
Mae Jo wedi bod yn aelod o’r Blaid Lafur ac yn actifydd ers dros 30 mlynedd, a dechreuodd ei gyrfa seneddol pan gafodd ei hethol yn AS dros Ganol Caerdydd yn 2015. Mae ganddi ddau fab sy'n oedolion ac yn ei hamser hamdden mae'n mwynhau llyfrau da, cerddoriaeth ac mae'n ddilynwr brwd o nifer o chwaraeon.
Llwyddiannau
Mae Jo yn gwasanaethu yng Nghabinet Cysgodol Keir Starmer, ar ôl cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Llafur dros Gymru yn 2021. Yn y rôl hon, mae hi wedi gweithio’n ddiflino i ddatgelu addewidion toredig di-ri Llywodraeth Geidwadol y DU i Gymru – gyda llygad diflino ar fethiant y Torïaid i gyflawni o ran dur Cymru, seilwaith rheilffyrdd a disodli cyllid yr UE i Gymru – yn ogystal â sicrhau bod gweledigaeth Llafur o llywodraeth Lafur y DU sy’n gweithio ar y cyd â’n Llywodraeth Lafur Cymru i adeiladu dyfodol Cymru i’w chlywed yn uchel ac yn glir yn Nhŷ’r Cyffredin.
Mae Jo wedi ymgymryd â nifer o rolau seneddol eraill, a chyn ei phenodiad yn Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru roedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Llafur dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Bu’n aelod o’r Pwyllgor Dethol Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon am dair blynedd, ac mae hefyd wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Gyfiawnder, y Pwyllgor Safonau, y Pwyllgor Breintiau a’r Pwyllgor Dethol Busnes, Arloesedd a Sgiliau. Rhwng Ionawr 2016 a Hydref 2016, hi oedd Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder Carchardai a Phrawf a Chyfreithiwr Cyffredinol yr Wrthblaid, a bu’n Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid dros Gymru o 2016-2017.